Roedd y ffermwr ac ecolegydd Sorcha Lewis yn siaradwr gwadd yng nghyfarfod Grŵp Llywio Prosiect Natur a Phobl, gyda chyflwyniad ar “Ffermio Cyfeillgar i Natur”.
Mae Sorcha a’i gŵr, Brian Lewis, yn ffermwyr tenant trydydd genhedlaeth sy’n byw yn Fferm Troedrhiwdrain gyda’u dau o blant. Fe esboniodd ystyr Troedrhiwdrain yn Saesneg gan ddweud mai fferm ucheldirol deuluol 580ha ydy hon.
Mosäig o rostir, coetir a chronfeydd dŵr y tu ôl i argaeau crand Fictoraidd ydy Cwm Elan, yng Nghanolbarth Cymru. Ymddiriedolaeth elusennol ydy Ymddiriedolaeth Cwm Elan Dŵr Cymru sydd â les 999 mlynedd dros lawer o’r dalgylch dŵr ac maen nhw’n landlordiaid i’r gymuned ffermio sy’n byw yno.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae cynhyrchiant y fferm wedi’i ddatblygu tra bo llawer o gynefinoedd pwysig wedi’u cadw a’u hymgorffori, gan gynnwys dolydd gwair, ffridd a phorfa rhos.
Defnyddir nifer o fridiau traddodiadol ar y fferm, gan gynnwys Defaid Mynydd Cymreig â Wynebau Moch Daear, Defaid Mynydd Cymreig a Defaid Herdwick. Maen nhw hefyd wedi ystyried cyflwyno gwartheg fel offeryn rheoli porfa rhos a fyddai o fudd pellach i nifer o rywogaethau.
Yn ôl Sorcha, dirprwy gadeirydd y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur: “Un cynefin gwerthfawr a chynyddol brin sydd i’w gael ar y fferm ydy’r dolydd gwair traddodiadol; mae 97% o’r dolydd gwaith wedi’u colli ledled Cymru a Lloegr ers y 1930au. Mae’r rhain yn helpu i gynhyrchu ŵyn o ansawdd sydd wedi’u tyfu’n araf ac sy’n bwyta’r glaswellt sy’n llawn llysiau.”
Mae Sorcha a Brian yn rheoli’r fferm gan gadw natur mewn cof a chreu cynefinoedd sydd o fudd i natur yn ogystal ag i fusnes y fferm; maen nhw wedi cynyddu ardal y ffridd sydd o gwmpas y fferm. Cynefin sydd i’w gael ar y tir rhwng y caeau amgaeedig a’r bryn agored ydy ffridd, yn nodweddiadol ar lethr serth, gyda llawer iawn o brysgwydd. Mae’r ardaloedd hyn yn anodd i’w rheoli ond maen nhw’n darparu cynefin pwysig i fywyd gwyllt.
Mae’r ffridd o amgylch Troedrhiwdrain yn gartref i boblogaethau o rywogaethau adar sydd ar drai, gan gynnwys mwyalchen y mynydd, y grugiar goch a’r gog. Mae hefyd yn gartref i’r gwyfyn cliradain Gymreig y mae Llywodraeth Cymru wedi’i nodi fel blaenoriaeth bioamrywiaeth. Mae coed bedw’n cael eu plannu yn Nhroedrhiwdrain i ddarparu cynefin addas ar gyfer y boblogaeth bwysig hon o’r gwyfynod cacynaidd hyn sy’n hedfan yn ystod y dydd.
Mae Sorcha yn ychwanegu: “Rydyn ni’n cefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt gan ein bod ni’n teimlo cyfrifoldeb i genedlaethau i ddod. Mae gwybod beth sydd gennon ni a pha mor bwysig ydy hyn yn golygu ein bod ni’n teimlo cyfrifoldeb i rannu’r amrywiaeth sydd yma yn ucheldiroedd Cymru. Dwi’n teimlo y dylai ffermwyr sy’n ystyried yr amgylchedd gael eu gwobrwyo a’u dathlu. Mae ffermio’n aml wedi cael sylw sydd braidd yn anffafriol yn y wasg, ond eto mae llawer o ffermwyr yn diogelu ac yn rheoli ein tirwedd.”
Capsiynau: Sorcha Lewis, dôl flodau a mwyalchen y mynydd (gan Sorcha Lewis).
Ffermio Cyfeillgar i Natur
Cysylltu â Ni
E-bost: severncatchment@aol.com