Natur a Ni - Nature and Us

 Gweithio Gyda’n Gilydd – Working Together

 

Croeso. Mae natur yn fregus…felly ninnau. Wrth i’r newidiadau yn yr hinsawdd waethygu, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni gydweithio law yn llaw â natur i ddod yn fwy cydnerth er mwyn gweithredu’n gynaliadwy a diogelu bioamrywiaeth. Mae ein hymdrechion dan arweiniad y gymuned a ffermwyr yn digwydd yma, yn nalgylch Afon Hafren uchaf yng Nghanolbarth Cymru.

Beth am ymuno â ni ar ein siwrnai ….

Natur a Ni - Nature and Us

Gweithio Gyda’n Gilydd – Working Together

Rydyn ni’n gwneud newidiadau er ein mwyn ni a chenedlaethau’r dyfodol trwy ychwanegu mwy o goed a gwrychoedd, pyllau a dŵr glanach a thrwy ddarparu gwell mynediad i fannau gwyrdd a glas ar gyfer hamdden, er ein llesiant a’n hiechyd corfforol a meddyliol.

Natur a Ni - Nature and Us

Gweithio Gyda’n Gilydd – Working Together

Croeso. Mae natur yn fregus…felly ninnau. Wrth i’r newidiadau yn yr hinsawdd waethygu, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni gydweithio law yn llaw â natur i ddod yn fwy cydnerth er mwyn gweithredu’n gynaliadwy a diogelu bioamrywiaeth. Mae ein hymdrechion dan arweiniad y gymuned a ffermwyr yn digwydd yma, yn nalgylch Afon Hafren uchaf yng Nghanolbarth Cymru.

Beth am ymuno â ni ar ein siwrnai ….

Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…

Mae ardal y prosiect Natur a Ni yn cwmpasu adran 15 milltir o ddalgylch Afon Hafren, gan ymgorffori rhyw 17,240 o erwau o dir aelodau a choedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymestyn o Ddolfor yn y dwyrain i Glywedog yn y gorllewin. Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…mae’r atebion yn gymhleth ond mae’n bosibl cyflawni llawer trwy ein cynllun ar raddfa tirwedd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn effeithiol.

Y prif gyfle i gydweithredu yw lleihau effeithiau newid hinsawdd fel erydiad tir gan ddŵr a gwynt. Mae angen i ni hefyd wrthdroi dirywiad iechyd ein hecosystemau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth.

Ar yr ochr gymdeithasol-economaidd, mae ein prosiect yn cynnwys mynd i’r afael â bygythiadau fel effeithiau ar incwm ffermio ar ôl Brexit a materion yn ymwneud ag iechyd fel amddifadedd, gordewdra a straen ffyrdd o fyw sy’n gallu arwain at salwch corfforol a meddyliol.

Blog

Cefnogaeth i Ysgolion

Cefnogaeth i Ysgolion

MAE cadeirydd Grŵp Maesmawr, Roche Davies, wedi cyflwyno offer amrywiol a chefnogaeth arall i feithrinfa ac ysgolion lleol fel rhan o’r raglen cysylltiadau addysg. Aeth y cyd-brosiect hwn dan arweiniad ffermwyr ati i ddarparu help, gan gynnwys ystafell ddosbarth awyr...

read more
Ar y Rhestr Fer am Wobr

Ar y Rhestr Fer am Wobr

DEWISWYD Grŵp Maesmawr fel un o’r Mentrau Cymdeithasol ar y brig ym Mhowys yng Ngwobrau Busnes o fri’r sir. Dewiswyd y cydweithrediad hwn dan arweiniad ffermwyr fel un o’r tri grŵp cymunedol arloesol ar y brig yn sir fwyaf Cymru. Yn ôl y beirniaid, gellid ystyried...

read more
Ymysg y goreuo

Ymysg y goreuo

MAE Cyngor Sir Powys wedi cydnabod cadeirydd Grŵp Maesmawr, Roche Davies, am ei gyfraniad neilltuol i’r gymuned. Cyflwynwyd gwobr Barcud Arian 2023 i Roche, o Fferm Trewythen, gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Beverley Baynham, am 58 mlynedd o wasanaeth mewn...

read more

Cysylltu â Ni