Amdanom Ni

Gweithio mewn partneriaeth

Datblygodd grŵp o deuluoedd ffermio, gyda chefnogaeth sefydliadau cymunedol a chefnogaeth gwasanaeth hwyluso Cynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gynnig llwyddiannus i gydweithio â natur yn Nalgylch Afon Hafren Uchaf

Nod Natur a Phobl (Natur a Ni) ydy datblygu dull cydweithredol o weithredu gyda phartneriaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cymru a Rhwydwaith Bioamrywiaeth Powys i fynd i’r afael â materion y mae’r ardal yn eu hwynebu. Mae FWAG Cymru hefyd yn ein cynghori ac yn archwilio’r prosiect o ran materion amgylcheddol a chynnydd.


Sefydlwyd Grŵp Maesmawr Cyf fel partner arweiniol i gyflawni’r prosiect sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau’n digwydd yng nghyfnod dwy flynedd cychwynnol y prosiect i wella cynefinoedd, creu gwell mynediad i gefn gwlad er mwyn i bobl gael buddion glas a gwyrdd – iechyd corfforol a meddyliol – yn ogystal ag amrywiaeth o dechnegau rheoli tir yn gynaliadwy.

Mae addysg yn yrrwr allweddol gyda ffocws ar hyfforddi aelodau o deuluoedd ffermio ar draws y cenedlaethau. Mae yna weithdai gydag arbenigwyr i sicrhau bod rheoli tir yn rhoi sylw i iechyd y pridd a bioamrywiaeth, storio carbon a rheoli llifogydd ag adnoddau naturiol.

Defnyddir gwyddoniaeth y dinesydd ynghyd â gwybodaeth o’r prosiectau ymchwil dechnolegol diweddaraf, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol, lluniau lloeren a meteoroleg.

Mae gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion i annog y genhedlaeth nesaf i feddwl am y byd naturiol o’u cwmpas ac am lle y mae eu bwyd yn dod ohono.

Mae cyfres o arolygon llinell sylfaen yn edrych ar sut y gall infertebratau, adar, mamaliaid a phlanhigion (yn enwedig yn yr ucheldiroedd) gael budd o system pori cymysg newydd, plannu gwrychoedd a choed a chymryd camau positif i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn cynefinoedd a rhywogaethau.

Cysylltu â Ni