Hinsawdd

Cymru sy'n effro i'r hinsawdd

Yn ei dogfen bolisi Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd, mae Llywodraeth Cymru’n manylu ar ei nod i dargedu effaith newid hinsawdd trwy Gymru a mynd i’r afael â hyn. Nod Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’n Gilydd ydy ymgorffori a mabwysiadu’r gweithrediadau hyn ar y cyd

Mae’n rhaid i ni dderbyn cyfrifoldeb am newid hinsawdd. Mae tymereddau eisoes yn cynyddu ac achosion o law trwm yn digwydd yn amlach, sy’n ddigwyddiadau sy’n gallu arwain at lifogydd catastroffig.

Yn ein prosiect Natur a Phobl, rydyn ni wedi ystyried pa gamau y medrwn ni eu cymryd i helpu i leihau’r effeithiau hyn. Mae ein camau’n cynnwys:

Hybu arfer amaethyddol ac amgylcheddol da i gynyddu cydnerthedd pridd a dŵr, sy’n cynnwys cynlluniau rheoli maetholion a phridd da i sicrhau bod yna lai o gywasgu fel bod mwy o ddŵr yn cael ei amsugno, bod yna lai o ddŵr ffo a bod yna ddyfroedd glân ym masnau ein hafon.

Creu mwy o frigdwf trwy blannu coed a gwrychoedd a chynnal glaswelltiroedd sydd hefyd yn caniatáu amsugno mwy o law, storio mwy o garbon a chynyddu gwerth gwasanaeth ecosystemau.

Yn ychwanegol at hyn, mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar:

Adfer yr ucheldiroedd a’u rheoli ar gyfer bioamrywiaeth, carbon, dŵr, risg llifogydd, ynni a buddion hamdden.

Cyflawni addasiadau newid hinsawdd trwy ffermio’n gynaliadwy gyda ffocws ar bridd iach a defnyddio adnoddau i’r eithaf.

Creu cyfleusterau storio dŵr i leihau dŵr ffo a darparu hafan ar gyfer bywyd gwyllt a fydd hefyd yn lleihau effeithiau sychder.

Annog ffermwyr y presennol – a chenedlaethau’r dyfodol o dirfeddianwyr amaethyddol – i feddwl am newid hinsawdd a chynllunio ar ei gyfer ac addasu, gan newid ymddygiadau ac arferion i wneud ein hadnoddau naturiol yn fwy cydnerth.

Cysylltu â Ni