Natur

Natur a Phobl...partneriaeth ym Mhowys

Mae ein prosiect yn cyfrannu at Bartneriaeth Natur Powys – grŵp o sefydliadau ac unigolion yn cydweithio i warchod bywyd gwyllt y sir ar gyfer y dyfodol. Mae Swyddog Bioamrywiaeth Powys yn aelod o’n Grŵp Llywio ac rydyn ni’n canolbwyntio ar ein nod ar y cyd o wella cynefinoedd lle bynnag a phryd bynnag y gallwn ni er budd yr amrywiaeth eang o fywyd gwyllt rydyn ni’n ei fwynhau yma ym Mhowys.

Mae rhai o’n haelodau eisoes yn gweithio’n agos iawn â Choed Cymru a Choed Cadw, gyda llawer yn cael eu defnyddio fel enghreifftiau i hybu buddion coetiroedd a phlannu coed ymysg y gymuned ffermio.

Mae un ohonyn nhw hefyd yn gweithio gyda Choed Cadw i fonitro allyriadau amonia unedau dofednod – i asesu’r effaith ar lystyfiant mewn prosiect y credir ei fod y cyntaf o’i fath yn y DU – fel rhan o Bobl a Natur: Cydweithio.

Sut fyddwn ni’n annog mwy o fioamrywiaeth? Mae coed, gwrychoedd a choedwigoedd yn cael eu creu. Bydd plannu hefyd yn gwella apêl estheteg y dirwedd ac yn cynyddu amrywiaeth ffawna a fflora yn unol â Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd hefyd yn rhoi mwy o nodweddion gweledol ar gyfer defnyddwyr y 224 milltir sy’n ffurfio Llwybr Hafren sy’n dod â buddion economaidd o ryw £50m o gerddwyr hirbell (ffynhonnell: Prifysgol Caerdydd).

 

Mae’r Grŵp wedi bod yn gweithio ar eu Cynllun Adfer Natur lleol eu hunain, yn unol ag un Powys, gyda phob un o’r ffermydd yn mabwysiadu o leiaf dwy o’r rhywogaethau a warchodir neu sy’n dirywio. Fel rhan o’r mesurau hyn – ac i helpu â storio carbon a’i wrthbwyso – mae pyllau yn cael eu huwchraddio i gefnogi bywyd gwyllt yn well, mae rhywogaethau penodol o goed yn cael eu plannu ac mae cyfleoedd nythu adar newydd yn cael eu darparu gyda gwrychoedd gwell neu newydd.

Mae ffensys sy’n atal defaid a gwartheg rhag cyrraedd glannau’r afon yn hybu dŵr glan. Mae yna hyfforddiant ar gyfer teuluoedd ffermio ar draws y cenedlaethau ar leihau effeithiau ar yr amgylchedd a dysgu am bryfed, adar, planhigion a mamaliaid, yn ogystal â’r ficrobioleg a’r ffwng sy’n bresennol yn y pridd. Mae’r llun ar y chwith yn dangos digwyddiad Gwyddoniaeth y Dinesydd lle roedd cic-samplo wedi digwydd i fonitro a chofnodi infertebratau er mwyn asesu iechyd yr afon.

Mae bioamrywiaeth yn yr ucheldir yn cael ei hybu trwy gael mwy o wartheg yn ogystal â defaid i bori, sy’n arwain at amrywiaeth ehangach o blanhigion a bywyd gwyllt.

Cysylltu â Ni