Sioe Ddefaid o Fri

Hyd 10, 2022

DAW digwyddiad Defaid Cymru 2023 i Ganolbarth Cymru ddydd Mawrth 16eg Mai 2023, gyda’r digwyddiad eilflwydd bob amser yn nodwedd bwysig o’r calendr ffermio.
Aelodau o Grŵp Maesmawr, y teulu Owen – Huw, Sioned a Dafydd – o Fferm Redhouse, Aberhafesb ger y Drenewydd, sy’n croesawu’r sioe eleni.
“Yma yn fferm Redhouse mae’r pwyslais ar ansawdd da, gyda gwartheg ac ŵyn dethol o’r radd flaenaf. Rydyn ni eisiau i bobl ein hadnabod am ein cynnyrch,” esbonia Huw.
Mae gan Redhouse 550 erw ac mae’n codi i uchder o 855 troedfedd uwchben lefel y môr, gyda golygfeydd ysblennydd i lawr i Ddyffryn Hafren. Mae Huw, Sioned a Dafydd yn gofalu am 1000 o famogiaid croesfrid Texel, ynghyd â rhai defaid Miwl Cymreig, 100 o ddefaid Texel pur a 100 o wartheg sugno Limousin, y mwyafrif ohonyn nhw wedi’u cofrestru. Mae gan Dafydd, fu’n astudio yng Ngholeg Glynllifon a Choleg Llysfasi, ei ddiadell ei hun o famogiaid Bletex.
Meddai trefnydd y Sioe Ddefaid, Helen Roberts: “Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda’r teulu Owen a dwi’n edmygu eu brwdfrydedd a’u ffordd o edrych i’r dyfodol yn yr hyn a allai fod yn amser cythryblus ar gyfer ffermio yn gyffredinol.”
Bydd gan Grŵp Maesmawr stondin yn y digwyddiad gydag ecolegwyr ac aelodau wrth law i siarad am brosiect cydweithredol “Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’n Gilydd”, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Rheoli Cynaliadwy yr UE ac sydd wedi bod ar waith yn Nalgylch Afon Hafren Uchaf am y ddwy flynedd ddiwethaf. A bydd y Grŵp yn cefnogi plant ysgol lleol i fynychu’r digwyddiad.
Mae yna ragor o fanylion yn https://www.nationalsheep.org.uk/welshsheep/

Cysylltu â Ni