Canolfan yn agor

Chw 18, 2023

MAE canolfan newydd y bydd Grŵp Maesmawr yn ei defnyddio ar gyfer ei raglen digwyddiadau ac addysg wedi agor ger Llanidloes.
Cynhaliodd aelodau a phartneriaid y grŵp cydweithredol amgylcheddol, dan arweiniad ffermwyr yn Nalgylch Afon Hafren Uchaf, eu cyfarfod cyntaf yn y ganolfan ym mis Chwefror.
Meddai’r Cadeirydd, Roche Davies: “Roedd hi’n wych gweld bod holl ymdrechion y teulu Jones i sefydlu’r cyfleuster newydd hwn wedi dwyn ffrwyth. Mae’r arallgyfeirio’n cefnogi llawer o fusnesau eraill ym maes lletygarwch – ac mae’n hynod bwysig i lesiant economaidd ardal Llanidloes.”
Mae’r adeilad pren cynaliadwy, â’i gladin o bren llarwydd sydd wedi’i dyfu ar Fferm Glynhafren ger Llanidloes, yn cynnig ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi, cawodydd, toiledau a maes parcio. Mae hefyd yn ganolfan i’w chroesawu ar gyfer menter arallgyfeirio’r teulu ffermio, sef pencampwriaeth Enduro – y Profiad Yamaha – sydd wedi hyfforddi llif cyson o bobl dros y blynyddoedd, gan gynnwys timau chwaraeon cenedlaethol, enwogion ac aelodau o deulu brenhinol Prydain.
Croesawodd Rowan Jones, sydd hefyd yn gadeirydd y Grŵp Llywio ar gyfer prosiect amgylcheddol Natur a Phobl, yr aelodau: “Mae’n wych gweld pawb yma ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r ganolfan ar gyfer gweithgareddau’r gymuned a’r grŵp,” meddai.
Mae’r fferm eisoes wedi bod yn fan cyfarfod ar gyfer sesiynau hyfforddi cic-samplo infertebratau Gwyddoniaeth y Dinesydd gan ecolegydd ar gyfer teuluoedd ffermio gan fod Afon Hafren o fewn ei thir, gydag amrywiaeth o bysgod, chwilod a rhywogaethau eraill yr afon wedi’u nodi a’u cofnodi.
Mae’r fferm wedi plannu lleiniau cysgodi newydd a gwrychoedd ac mae wedi codi ffensys o amgylch cyrsiau dŵr fel rhan o linynnau Bioamrywiaeth Well a Dyfroedd Glân prosiect y Cynllun Rheoli Cynaliadwy, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r UE.

Cysylltu â Ni