Profion dŵr Hafren

Medi 23, 2024

MAE Grŵp Maesmawr wedi cynnal profion ar Afon Hafren fel rhan o Blitz Dŵr Mawr y DU.
Dros benwythnos Medi 20-23, 2024 gallai aelodau’r cyhoedd gofrestru i dderbyn pecyn profi dŵr a dod yn wyddonwyr dinasyddion trwy brofi eu corff dŵr lleol.
Profwyd dŵr yr afon gan y Grŵp mewn dwy dref yng Nghanolbarth Cymru – canol Llanidloes a chanol y Drenewydd hefyd.
Canfuwyd bod faint o ffosffadau a nitradau yn fach iawn ac felly, yn ôl y fenter, “mae gan y corff dŵr hwn statws ecolegol da iawn. Mae crynodiadau maeth yn isel.”
Gweler mwy yma: https://www.freshwaterwatch.org/pages/great-uk-waterblitz-results#RESULTS

 

 

 

Cysylltu â Ni