Anrhydedd ffermio

Rhag 14, 2022

MAE aelodau o Grŵp Maesmawr wedi’u cydnabod am eu harferion rhagorol a’u cyfraniad at ffermio.
Cyflwynwyd y tlws am ennill y cyfanswm uchaf o bwyntiau i’r teulu Owen – Huw, Sioned a Dafydd – o Fferm Redhouse, Aberhafesb gan Lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Sir Drefaldwyn, Keith Davies, yn seremoni wobrwyo flynyddol y gymdeithas ym mis Rhagfyr 2022. Mynychodd dros 170 o bobl y digwyddiad yn Llanfair Caereinion a chyflwynwyd gwobrau i enillwyr 25 o wahanol ddosbarthau.
Mae Huw a Sioned yn Ysgrifenyddion Grŵp Maesmawr, sef grŵp cydweithredol o sefydliadau dan arweiniad ffermwyr sy’n gweithio i ddiogelu natur a’r amgylchedd yn Nalgylch Afon Hafren Uchaf, sy’n ymestyn dros 15 milltir o Ddolfor yn y dwyrain i Glywedog a Choedwig Hafren yn y gorllewin.

Cysylltu â Ni