CAFWYD canmoliaeth i Grŵp Maesmawr gan werthuswyr allanol cyllid Llywodraeth Cymru.
“Mae Maesmawr wedi creu ffordd unigryw o weithio all fod yn fodel ar gyfer meysydd eraill,” meddai’r asesydd o ymgynghorwyr OB3. “Maen nhw wedi manteisio ar sgiliau, profiad ac ymrwymiad y gymuned ffermio, gwybodaeth a chymhwysiad arbenigwyr amgylcheddol, sgil hwylusydd ymroddedig a diddordeb y gymuned ehangach a’r genhedlaeth nesaf.”
Darparodd y grŵp dan arweiniad ffermwyr nifer enfawr o welliannau amgylcheddol ar gyfer tirwedd a natur fel rhan o brosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy a gynhaliwyd am ddwy flynedd.
Roedd y rhain yn cynnwys plannu neu uwchraddio dros 2km o wrychoedd, adfer bron i 6km o lwybrau ceffylau neu lwybrau troed, a sicrhau dyfroedd glân trwy osgoi llygredd stoc gyda ffensys ar hyd 2km o lannau afonydd neu nentydd.