Ffair Fwyd y Drenewydd

Medi 10, 2022

Daeth bron i 400 o bobl heibio i stondin prosiect amgylcheddol yn ystod Ffair Fwyd y Drenewydd i siarad am natur a ffermio.
Roedd y prosiect Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’n Gilydd, dan arweiniad grŵp ffermwyr Maesmawr o Ddalgylch Afon Hafren Uchaf, yn rhoi cyhoeddusrwydd i’w gwaith yn y digwyddiad, trwy esbonio am anifeiliaid di-asgwrn-cefn a physgod Afon Hafren.
Roedd ymwelwyr yn gallu gweld drostyn nhw eu hunain rhai o’r anifeiliaid di-asgwrn-cefn, pysgod y gwyniad barfog a philcod a oedd wedi dod i’r amlwg yn ystod gwaith cic-samploar yr afon bob dydd. Roedd plant yn cael lliwio amlinelliadau o anifeiliaid fferm ac edrych ar lyfrau am ffermio a natur.
Roedd gasebo’r prosiect wedi’i addurno â ffotograffau a oedd yn cofnodi gweithgareddau’r prosiect a chafodd gwefan ddwyieithog y prosiect, www.natureandpeople.wales, ei hybu hefyd. Roedd ffermwyr a staff rheoli’r prosiect yn gofalu am y stondin ac roedden nhw’n dweud bod yna ddiddordeb brwd yn negeseuon y cynllun.
Meddai Cadeirydd Grŵp Maesmawr, Roche Davies: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o deuluoedd yn dod i gymryd rhan yn y trafodaethau am natur a ffermio, i weld yr arddangosion ac i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r plant. Pleser o’r mwyaf ydy rhannu ein straeon llwyddiant a’n dyheadau ar gyfer dyfodol ffermio a natur yn gweithio gyda’i gilydd yng nghysgod newid hinsawdd.”
Mae’r Grŵp yn ymweld â rhyw ddwsin o ysgolion a cholegau yn yr ardal i roi rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd i ddiogelu ac annog bywyd gwyllt. Mae wedi cwblhau llawer o weithgareddau, gan gynnwys pyllau dŵr newydd neu wedi’u huwchraddio ar ffermdir, coed a gwrychoedd wedi’u plannu, llwybrau troed a llwybrau ceffylau wedi’u gwella i’w gwneud yn fwy hygyrch ac i wella llesiant yn ogystal â nifer o arolygon bywyd gwyllt, a wnaed gyda help plant ysgol.

Cysylltu â Ni