Natur a Ni - Nature and Us

 Gweithio Gyda’n Gilydd – Working Together

 

Croeso. Mae natur yn fregus…felly ninnau. Wrth i’r newidiadau yn yr hinsawdd waethygu, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni gydweithio law yn llaw â natur i ddod yn fwy cydnerth er mwyn gweithredu’n gynaliadwy a diogelu bioamrywiaeth. Mae ein hymdrechion dan arweiniad y gymuned a ffermwyr yn digwydd yma, yn nalgylch Afon Hafren uchaf yng Nghanolbarth Cymru.

Beth am ymuno â ni ar ein siwrnai ….

Natur a Ni - Nature and Us

Gweithio Gyda’n Gilydd – Working Together

Rydyn ni’n gwneud newidiadau er ein mwyn ni a chenedlaethau’r dyfodol trwy ychwanegu mwy o goed a gwrychoedd, pyllau a dŵr glanach a thrwy ddarparu gwell mynediad i fannau gwyrdd a glas ar gyfer hamdden, er ein llesiant a’n hiechyd corfforol a meddyliol.

Natur a Ni - Nature and Us

Gweithio Gyda’n Gilydd – Working Together

Croeso. Mae natur yn fregus…felly ninnau. Wrth i’r newidiadau yn yr hinsawdd waethygu, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni gydweithio law yn llaw â natur i ddod yn fwy cydnerth er mwyn gweithredu’n gynaliadwy a diogelu bioamrywiaeth. Mae ein hymdrechion dan arweiniad y gymuned a ffermwyr yn digwydd yma, yn nalgylch Afon Hafren uchaf yng Nghanolbarth Cymru.

Beth am ymuno â ni ar ein siwrnai ….

Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…

Mae ardal y prosiect Natur a Ni yn cwmpasu adran 15 milltir o ddalgylch Afon Hafren, gan ymgorffori rhyw 17,240 o erwau o dir aelodau a choedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymestyn o Ddolfor yn y dwyrain i Glywedog yn y gorllewin. Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…mae’r atebion yn gymhleth ond mae’n bosibl cyflawni llawer trwy ein cynllun ar raddfa tirwedd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn effeithiol.

Y prif gyfle i gydweithredu yw lleihau effeithiau newid hinsawdd fel erydiad tir gan ddŵr a gwynt. Mae angen i ni hefyd wrthdroi dirywiad iechyd ein hecosystemau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth.

Ar yr ochr gymdeithasol-economaidd, mae ein prosiect yn cynnwys mynd i’r afael â bygythiadau fel effeithiau ar incwm ffermio ar ôl Brexit a materion yn ymwneud ag iechyd fel amddifadedd, gordewdra a straen ffyrdd o fyw sy’n gallu arwain at salwch corfforol a meddyliol.

Blog

Natur a Ffermio

Natur a Ffermio

BU mwy na 300 o blant yn mwynhau taith i ddigwyddiad clodfawr Defaid Cymru 2023 yng Nghanolbarth Cymru ddoe i weld sut y mae ffermwyr yn gallu gweithio gyda natur, diolch i grŵp ffermio yn nalgylch Afon Hafren uchaf. Galluogwyd ymweliadau ysgolion lleol â Fferm Red...

read more
Canolfan yn agor

Canolfan yn agor

MAE canolfan newydd y bydd Grŵp Maesmawr yn ei defnyddio ar gyfer ei raglen digwyddiadau ac addysg wedi agor ger Llanidloes. Cynhaliodd aelodau a phartneriaid y grŵp cydweithredol amgylcheddol, dan arweiniad ffermwyr yn Nalgylch Afon Hafren Uchaf, eu cyfarfod cyntaf...

read more
Anrhydedd ffermio

Anrhydedd ffermio

MAE aelodau o Grŵp Maesmawr wedi’u cydnabod am eu harferion rhagorol a’u cyfraniad at ffermio. Cyflwynwyd y tlws am ennill y cyfanswm uchaf o bwyntiau i’r teulu Owen – Huw, Sioned a Dafydd – o Fferm Redhouse, Aberhafesb gan Lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol...

read more

Cysylltu â Ni