Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…
Mae ardal y prosiect Natur a Ni yn cwmpasu adran 15 milltir o ddalgylch Afon Hafren, gan ymgorffori rhyw 17,240 o erwau o dir aelodau a choedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymestyn o Ddolfor yn y dwyrain i Glywedog yn y gorllewin. Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…mae’r atebion yn gymhleth ond mae’n bosibl cyflawni llawer trwy ein cynllun ar raddfa tirwedd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn effeithiol.
Y prif gyfle i gydweithredu yw lleihau effeithiau newid hinsawdd fel erydiad tir gan ddŵr a gwynt. Mae angen i ni hefyd wrthdroi dirywiad iechyd ein hecosystemau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth.
Ar yr ochr gymdeithasol-economaidd, mae ein prosiect yn cynnwys mynd i’r afael â bygythiadau fel effeithiau ar incwm ffermio ar ôl Brexit a materion yn ymwneud ag iechyd fel amddifadedd, gordewdra a straen ffyrdd o fyw sy’n gallu arwain at salwch corfforol a meddyliol.
Blogiau diweddaraf
Sioe Ddefaid o Fri
DAW digwyddiad Defaid Cymru 2023 i Ganolbarth Cymru ddydd Mawrth 16eg Mai 2023, gyda’r digwyddiad eilflwydd bob amser yn nodwedd bwysig o’r calendr ffermio. Aelodau o Grŵp Maesmawr, y teulu Owen – Huw, Sioned a Dafydd – o Fferm Redhouse, Aberhafesb ger y Drenewydd,...
Ffair Fwyd y Drenewydd
Daeth bron i 400 o bobl heibio i stondin prosiect amgylcheddol yn ystod Ffair Fwyd y Drenewydd i siarad am natur a ffermio. Roedd y prosiect Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’n Gilydd, dan arweiniad grŵp ffermwyr Maesmawr o Ddalgylch Afon Hafren Uchaf, yn rhoi...
Ffermio Cyfeillgar i Natur
Roedd y ffermwr ac ecolegydd Sorcha Lewis yn siaradwr gwadd yng nghyfarfod Grŵp Llywio Prosiect Natur a Phobl, gyda chyflwyniad ar “Ffermio Cyfeillgar i Natur”. Mae Sorcha a’i gŵr, Brian Lewis, yn ffermwyr tenant trydydd genhedlaeth sy’n byw yn Fferm Troedrhiwdrain...