Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…
Mae ardal y prosiect Natur a Ni yn cwmpasu adran 15 milltir o ddalgylch Afon Hafren, gan ymgorffori rhyw 17,240 o erwau o dir aelodau a choedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymestyn o Ddolfor yn y dwyrain i Glywedog yn y gorllewin. Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…mae’r atebion yn gymhleth ond mae’n bosibl cyflawni llawer trwy ein cynllun ar raddfa tirwedd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn effeithiol.
Y prif gyfle i gydweithredu yw lleihau effeithiau newid hinsawdd fel erydiad tir gan ddŵr a gwynt. Mae angen i ni hefyd wrthdroi dirywiad iechyd ein hecosystemau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth.
Ar yr ochr gymdeithasol-economaidd, mae ein prosiect yn cynnwys mynd i’r afael â bygythiadau fel effeithiau ar incwm ffermio ar ôl Brexit a materion yn ymwneud ag iechyd fel amddifadedd, gordewdra a straen ffyrdd o fyw sy’n gallu arwain at salwch corfforol a meddyliol.
Blogiau diweddaraf
Llygaid yn yr awyr
“Nid ysbiwyr yn yr awyr ydy lloerennau ond teclynnau i alluogi ffermwyr i edrych ar eu harferion presennol, gwneud defnydd gwell o’u tir a gwarchod bioamrywiaeth eu hardaloedd.” Dyna oedd neges y prif arbenigwr yr Athro Richard Lucas yn un o gyfarfodydd Grŵp Maesmawr,...
Cyfrinachau pridd iach
“Pwy fase’n gwybod?”, myfyriodd ffermwyr Powys a fynychodd gweithdy a sesiwn ymarferol dan arweiniad un o arbenigwyr pridd a glaswelltir mwyaf blaenllaw y DU. Roedd Charlie Morgan, awdur dros 60 o bapurau academaidd, gan gynnwys rhai ar dreialon gwahanol driniaethau...
Byd cudd y dŵr
Roedd digwyddiad Gwyddoniaeth y Dinesydd yn ystod gwyliau’r haf yn gyfle i aelodau ifanc o deuluoedd ffermio ddarganfod pa mor iach ydy afonydd a nentydd lleol ym Mhowys. Dan arweiniad yr ecolegydd Phil Ward (neu “y dyn pryfed” i roi enw arall arno), roedd y plant...