Llesiant
Mae yna dystiolaeth gynyddol bod treulio mwy o amser mewn natur yn gwella ein hiechyd meddwl a’n llesiant cyffredinol. Mae hyn yn wir am bod rhan o gymdeithas. Mae ffermwyr yn treulio llawer iawn o amser yn gweithio yn yr awyr agored ond yn aml yn gwneud hyn ar eu pennau eu hunain. Mae’n gyffredin i ffermwyr weithio am ddyddiau cyfan heb weld unrhyw un, a gall ynysigrwydd cymdeithasol arwain at ddiffyg cefnogaeth neu ddiffyg o ran pobl eraill yn sylwi ar symptomau salwch meddwl.
Mae menywod, ffermwyr sy’n cadw da byw a’r rheini sy’n rhedeg mentrau llai yn fwy tebygol o fod yn cael pethau’n anodd o ran eu hiechyd meddwl, fel y datgelodd canlyniadau Arolwg Ffermio Mawr y Sefydliad Buddiannol Amaethyddol Brenhinol (Hydref 2021).
Academyddion o Brifysgol Exeter wnaeth yr ymchwil rhwng mis Ionawr a mis Ebrill eleni, gyda chefnogaeth y Farmers Weekly, ac fe ddenodd fwy na 15,000 o ymatebion – ffermwyr yn bennaf.
Mae sefydliadau fel Grŵp Maesmawr yn caniatáu i ffermwyr ddod at ei gilydd i ddysgu, cyfrannu eu harbenigedd a mwynhau ychydig o ryngweithio cymdeithasol (gan roi sylw dyledus i reolau covid).
Mae yna rwystrau o ran mynediad i ganolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden eraill. Ymysg y rhain mae cysylltiadau teithio a chostau. Trwy gael amrywiaeth eang o lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau ledled Powys, mae yna fwy o gyfleoedd i gael ymarfer corff gartref, yn rhad ac am ddim.
Gellir goresgyn y rhwystrau cymdeithasol economaidd rhag ffordd iach o fyw trwy ddatblygu’r adnoddau hyn ac addysgu am fwyd lleol, tymhorol sy’n gallu lleihau milltiroedd bwyd a’r carbon a ddefnyddir wrth eu tyfu a’u cludo.
Sut all y prosiect Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’i Gilydd helpu â’r materion hyn? Mae’r Grŵp eisoes wedi bod yn cynllunio opsiynau i helpu ac mae wrthi’n gweithio’n galed yn rhoi y rhain ar waith.
Iechyd Gwyrdd a Glas
“Mae cysylltiad wedi’i nodi rhwng defnyddio mannau gwyrdd a glas a gwelliant mewn iechyd corfforol, gan gynnwys lleihau lefelau cortisol, pwysedd gwaed, colesterol a chynyddu iechyd hunangofnodedig; mae yna hefyd dystiolaeth gynyddol o’r buddion ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl.” (GIG).
“Mae amgylcheddau naturiol a mannau gwyrdd a glas hygyrch yn chwarae rôl uniongyrchol ac anuniongyrchol mewn iechyd a llesiant.” (Sefydliad Iechyd y Byd). Maen nhw’n gallu lliniaru effeithiau newid hinsawdd a lleihau’r risgiau o drychinebau, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau hamdden egnïol; maen nhw’n rhoi lle i ymlacio ac i adael straen y dydd ar ôl am ychydig.
Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod gallu treulio amser mewn natur yn rhywbeth y mae cymunedau wedi’i fethu’n arbennig yn ystod cyfnodau clo COVID-19.
Er bod pobl wedi deall ers tro bod mannau gwyrdd a glas yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael ag iechyd pobl ac ecosystemau, dim ond yn ddiweddar y bu ymchwilio penodol i’r berthynas hon.
Mae hyn wedi dod yn bwysicach fyth o ystyried yr angen i addasu’r ffordd o gynllunio a defnyddio tir i ateb sawl her gymdeithasol ac amgylcheddol, fel amddifadedd, colli bioamrywiaeth, llygredd a newid hinsawdd.
Yn Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’n Gilydd, mae’r ffocws wedi bod ar “Natur a Ni” gyda’r ddau yn cefnogi’i gilydd. Mae’r prosiect wedi dechrau gweithio ar wella mynediad y cyhoedd i lwybrau ceffylau a llwybrau troed ac ar lanhau’r dŵr sy’n rhoi bywyd i lawer o’r ardaloedd hyn.
Uwchraddiwyd dwy ran o’r llwybr ceffylau ger Llandinam, gwellwyd llwybr troed cyhoeddus ger Pontdolgoch a sefydlwyd tri safle gorffwys gyda byrddau picnic a meinciau. Mae pwll wrth ffordd gyhoeddus ger Llanidloes yn cael ei adfer ac mae sawl pwll arall wedi’u creu.
Mae coed yn cael eu plannu ar ochr rhai o’r rhain ac mae llawer o wrychoedd sydd i’w gweld o ffyrdd cyhoeddus yn cael eu hadfer. Mae nifer fach o wartheg wedi’u rhoi i bori’n ofalus ar gae rhos ger llwybrau troed a ffyrdd yng Nghaersws i gynnal ei blanhigion a bywyd gwyllt. Mae afonydd wedi’u ffensio i ffwrdd i leihau llygredd gan wartheg a defaid.
Dim ond rhai enghreifftiau ydy’r rhain o’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi mannau gwyrdd a glas ar gyfer iechyd a llesiant.