“Nid ysbiwyr yn yr awyr ydy lloerennau ond teclynnau i alluogi ffermwyr i edrych ar eu harferion presennol, gwneud defnydd gwell o’u tir a gwarchod bioamrywiaeth eu hardaloedd.”
Dyna oedd neges y prif arbenigwr yr Athro Richard Lucas yn un o gyfarfodydd Grŵp Maesmawr, sef y sefydliad sy’n arwain y prosiect tirwedd cydweithredol “Natur a Phobl – Gweithio Gyda’n Gilydd”.
Yn ddiweddar, bu’r Athro Lucas o Brifysgol Aberystwyth yn gwneud cyflwyniad yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y byd COP26 a gynhaliwyd yn Glasgow.
Yn y cyfarfod yn Sir Drefaldwyn, dywedodd wrth y gynulleidfa, a oedd yn cynnwys teuluoedd ffermio a oedd yn rhychwantu’r cenedlaethau, fod prosiectau newydd fel Cymru Fyw yn darparu mapiau a gwybodaeth a allai fod o fudd gwirioneddol i’w busnesau a’u hamgylcheddau, yn enwedig mewn ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’r angen am storio carbon.
Mae Cymru Fyw yn defnyddio technoleg lloeren o’r radd flaenaf i arsylwi ar y Ddaear ac i fonitro esblygiad y dirwedd Gymreig ac mae rhaglen Sêr Cymru o fewn Llywodraeth Cymru yn ei ariannu. Mae yna oriel arddangos barhaol yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.
Mae’r Athro Lucas hefyd wedi bod yn gweithio gydag Asiantaeth Ofod Ewrop i fapio fforestydd o gwmpas y byd a dangosodd i’r grŵp fel yr oedd ardal o’r fforest law o faint Ynysoedd Prydain wedi’i chwympo mewn talaith yn Ngorllewin Amazonia, gyda’r datgoedwigo hwn yn cyfrannu’n sylweddol at newid hinsawdd.
Croesawodd cadeirydd Grŵp Llywio Natur a Phobl, Rowan Jones, sy’n ffermio ger Llanidloes, y cyflwyniad. “Roedd yn wych gweld sut y gellir defnyddio gwybodaeth i fonitro, rhagweld a modelu’ch arferion ffermio,” meddai. “Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu a chysylltu pellach â phrosiect Cymru Fyw.”
Mae Natur a Phobl – Gweithio Gyda’n Gilydd (slogan “Natur a Ni”) wedi derbyn cymorth ariannol o’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy trwy raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, y mae Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru’n ei ariannu. Mae’n brosiect dwy flynedd ac yn gydweithrediad dros 17,240 erw yn nalgylch Afon Hafren uchaf rhwng 40 o bartneriaid ffermio, Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cymru, Partneriaeth Natur Powys a chwmni dŵr Hafren Dyfrdwy yn ogystal â sefydliadau ac ysgolion lleol.
Llygaid yn yr awyr
Cysylltu â Ni
E-bost: severncatchment@aol.com