Lansio Prosiect

Mai 5, 2021

Mae grŵp cymunedol dan arweiniad ffermwyr wedi lansio prosiect i gefnogi gwaith rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn nalgylch Afon Hafren uchaf ym Mhowys.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu trwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, y mae Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru’n ei hariannu.
“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cael ein dewis i gyflawni’r prosiect ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru ac amrywiaeth eang o sefydliadau lleol i gyflawni ein nodau,” esbonia Roche Davies, cadeirydd Grŵp Maesmawr, y sefydliad arweiniol, sy’n ffermio yn Llandinam.
Bydd y prosiect cychwynnol dwy flynedd, a oedd yn llwyddiannus yng ngham olaf y cynllun Rheoli Cynaliadwy roedd Llywodraeth Cymru’n ei hybu, yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i wella cynefinoedd, creu gwell mynediad i gefn gwlad er mwyn i bobl gael buddion glas a gwyrdd – iechyd corfforol a meddyliol – yn ogystal ag amrywiaeth o dechnegau rheoli tir yn gynaliadwy.
Mae addysg yn yrrwr allweddol gyda ffocws ar hyfforddi aelodau o deuluoedd ffermio ar draws y cenedlaethau. Bydd yna weithdai gydag arbenigwyr i sicrhau bod rheoli tir yn rhoi sylw i iechyd y pridd a bioamrywiaeth, storio carbon a rheoli llifogydd ag adnoddau naturiol. Defnyddir gwyddoniaeth y dinesydd ynghyd â gwybodaeth o’r prosiectau ymchwil dechnolegol diweddaraf, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol, lluniau lloeren a meteoroleg.
Mae gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion i annog y genhedlaeth nesaf i feddwl am y byd naturiol o’u cwmpas ac am lle y mae eu bwyd yn dod ohono. Bydd cyfres o arolygon llinell sylfaen yn edrych ar sut y gall infertebratau, adar, mamaliaid a phlanhigion (yn enwedig yn yr ucheldiroedd) gael budd o system pori cymysg newydd, plannu gwrychoedd a choed a chymryd camau positif i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn cynefinoedd a rhywogaethau
.

Cysylltu â Ni