Roedd digwyddiad Gwyddoniaeth y Dinesydd yn ystod gwyliau’r haf yn gyfle i aelodau ifanc o deuluoedd ffermio ddarganfod pa mor iach ydy afonydd a nentydd lleol ym Mhowys.
Dan arweiniad yr ecolegydd Phil Ward (neu “y dyn pryfed” i roi enw arall arno), roedd y plant wedi gallu cic-samplo ar Afon Hafren a’i llednentydd i ddadorchuddio byd cudd infertebratau. Daethpwyd o hyd i amrywiaeth anhygoel o breswylwyr byd y dŵr, yn amrywio o’r unig gimwch yr afon crafanc wen cynhenid i’r DU (Austropotamobius pallipes) – rhywogaeth sydd dan fygythiad oherwydd cimwch yr afon rheibus ymledol llawer mwy ei faint o Ogledd America (Pacifastacus leniusculus) – i bryfed cadis a chwilod dŵr.
Roedd Phil hefyd wedi gallu arddangos rhywogaethau lleol mewn sgwrs cyn y digwyddiad fel bod gan y plant syniad o’r amrywiaeth o fywyd pryfed ac infertebratau yng nghanolbarth Cymru.
Meddai Rowan Jones, cadeirydd y prosiect Pobl a Natur yn Gweithio Gyda’i Gilydd: ”Roedd yn ddigwyddiad gwych a gwnaeth y plant – yn ogystal â ni’r rhieni – ddysgu cymaint am y bywyd naturiol yn ein nentydd a’n hafonydd”.