“Pwy fase’n gwybod?”, myfyriodd ffermwyr Powys a fynychodd gweithdy a sesiwn ymarferol dan arweiniad un o arbenigwyr pridd a glaswelltir mwyaf blaenllaw y DU.
Roedd Charlie Morgan, awdur dros 60 o bapurau academaidd, gan gynnwys rhai ar dreialon gwahanol driniaethau glaswelltau a phridd, wrth law i esbonio cyfrinachau pridd iach. Darganfu aelodau’r prosiect Pobl a Natur yn Gweithio Gyda’i Gilydd fod jar jam o bridd yn cynnwys miliynau o facteria a milltiroedd o ffwng mycorhisol sydd eu hangen i gadw’r pridd yn iach ynghyd â chyflenwad da o bryfed genwair i gario sbwriel dail a phlanhigion o’r wyneb i lawr i mewn i’r pridd.
Meddai, “dim ond 30% o’r samplau pridd diweddar a gymerwyd yng Nghymru sydd ar y lefel pH cywir o 6 i 6.5. Mae glaw yn dihysbyddu’r calch sydd wrth gefn, fel y mae defnyddio nitrogen a sylffwr, sy’n cynyddu’r asidedd, hefyd yn ei wneud.” Argymhella Charlie roi calch yn gynnar yn y gwanwyn neu hydref gan y bydd amodau sych yr haf yn golygu bod yna ronynnau o galch yn eistedd ar ddail y glaswellt; ac mae perygl o ddŵr ffo o’i roi yn y gaeaf. Dywed fod lefelau potash a ffosffad hefyd yn amrywio’n fawr ledled Cymru; mae potash yn aml yn ddiffygiol ar dir silwair tra bo tir pori yn gallu cael gormod o’r ddau ohonyn nhw.
“Os nad ydyn ni’n bwydo’r pridd, dydyn ni ddim yn bwydo’r glaswellt, a’r canlyniad ydy does yna ddim porthiant, neu mae’r porthiant yn ddrutach, ar gyfer da byw”, meddai wrth aelodau o Grŵp Maesmawr sy’n rhedeg y prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy Natur a Ni’n Gweithio Gyda’n Gilydd.
Mae’n rhybuddio bod profi’r pridd yn hanfodol ac yn fuddsoddiad da sy’n costio cyn lleied â £10 y cae ond sy’n darparu gwybodaeth hanfodol am lefelau pH, ffosffad, potash a magnesiwm. Dylid cerdded y caeau i wirio pa fathau o blanhigion sydd yn y glaswelltir a hefyd cloddio tyweirch pridd i wirio am gywasgiad (a chymryd camau adferol) a gwirio bod pryfed genwair yn bresennol i awyru a bwydo’r pridd.
Cyfrinachau pridd iach
Cysylltu â Ni
E-bost: severncatchment@aol.com