Y Prosiect
Bu llawer o sefydliadau eraill â buddiant yn cefnogi ein menter o 30 o bartneriaid ffermio i ddatblygu dull newydd cyfannol o weithredu – yn seiliedig ar dystiolaeth – i:
- Ffermio tir yn gynaliadwy a rhoi ystyriaeth i lesiant cenedlaethau’r dyfodol, gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd, gwrthsefyll cywasgiad ac erydiad pridd trwy wneud y defnydd gorau o bori;
- Gwella bioamrywiaeth trwy greu neu uwchraddio cynefinoedd a’u cysylltedd trwy blannu a chreu pyllau;
- Datblygu gwell mynediad i fannau gwyrdd a glas ar gyfer gweithgarwch corfforol a llesiant meddwl;
- Lleihau allyriadau carbon cysylltiedig â ffermio a diwallu’r angen am farchnadoedd newydd ar ôl Brexit trwy edrych ar ffyrdd newydd arloesol o weithio.
Ein nod hefyd ydy:
- Annog gwell dealltwriaeth o ffermio yn sgil cysylltiadau cymunedol gwell trwy addysg, hybu gweithgareddau a phrosiectau;
- Lleihau’r risg o lifogydd trwy arafu llif y dŵr trwy gynyddu nifer y pyllau a phlannu coed a gwrychoedd;;
- Addysgu pobl ifanc a’u rhieni am newid hinsawdd a ffermio cynaliadwy er mwyn ymgysylltu’n well â bwyta’n iach, bywyd gwledig a chyfleoedd a buddion gwirfoddoli. Hefyd, hybu gwell dealltwriaeth o fygythiadau newid hinsawdd a sut i’w gwrthsefyll trwy ddefnyddio technoleg uwch.
Partneriaeth
Enillodd y prosiect gefnogaeth fwy na 30 o sefydliadau yn yr ardal yn ystod ei ddatblygu ac mae nawr yn gweithio gyda rhai o’r rhain i hyrwyddo ymhellach y gweithgareddau parhaus.
Mae Powys yn un o’r siroedd gorau yng Nghymru o ran preswylwyr sy’n ailgylchu eu gwastraff. Fodd bynnag, mae rhai pobl dal yn gadael hen ddigon o sbwriel ar eu holau – yn enwedig ar hyd llwybrau cerdded poblogaidd fel llwybr Afon Hafren ac ardal parc Dolerw y Drenewydd.Troi sbwriel yn Gelf trwy “Oriel Sbwriel”
Bu’r prosiect yn cymryd rhan mewn digwyddiadau codi sbwriel a drefnwyd gan Celf-Able, sef grŵp o artistiaid ag anableddau, gyda’r artistiaid Terri Sweeney a Jo Munton yn glanhau ac yn defnyddio’r pentwr caniau cwrw, ffoil arian, pacedi creision ac eitemau defnyddiol eraill i gynhyrchu darnau o gelf anhygoel. Bu tîm Ymwybodol o Wastraff Cyngor Sir Powys yn eu cefnogi. Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn y trefi lle heliwyd sbwriel – y Drenewydd, Machynlleth, y Trallwng, Llanfair Caereinion a Llanidloes. “Oriel Sbwriel/Litter Arty” ydy enw’r prosiect sbwriel.
Mae aelodau wedi bod yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.Mae sefydliadau a chwmnïau ymchwil wedi bod yn rhannu eu darganfyddiadau a’u harbenigedd â’r Grŵp trwy nifer o Ddosbarthiadau Meistri a gweithdai ymarferol a bydd cydweithio pellach ar nifer o dreialon ymchwiliol yn digwydd yn ystod cyfnod y prosiect.
Mae llawer o’r sefydliadau sy’n mynegi cefnogaeth i’r prosiect yn cymryd rhan yn y ffair fwyd flynyddol yn y Drenewydd (ar y chwith). Bydd y prosiect Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’i Gilydd yn datblygu amrywiaeth o offer i roi gwybod i bawb beth sy’n digwydd, gan gynnwys y wefan hon, a bydd yn mynychu digwyddiadau amrywiol gan gynnwys sioeau amaethyddol ar draws yr ardal.
Mae aelodau wedi bod yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Mae sefydliadau a chwmnïau ymchwil wedi bod yn rhannu eu darganfyddiadau a’u harbenigedd â’r Grŵp trwy nifer o Ddosbarthiadau Meistr a gweithdai ymarferol a bydd cydweithio pellach ar nifer o dreialon ymchwiliol yn digwydd yn ystod y prosiect.
Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru’n gosod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth a sefydliadau eraill i ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar genedlaethau’r dyfodol. Mae’r prosiect yn hyrwyddo ysbryd y Ddeddf trwy ystyried effeithiau ei weithredoedd yn y dyfodol ac yn wir, lle bo’n bosibl, cynnwys y genhedlaeth nesaf yn ei weithgareddau ar draws llinynnau amrywiol y prosiect.
Pwy sydd ddim wrth eu boddau’n mynd i ddowcio yn y pwll neu’r afon? Roedd gweithgaredd hanner tymor ar gyfer plant ffermydd ar Afon Hafren a’i nentydd yn llwyddiant â’r rhai fu’n cymryd rhan. ”Be’ sydd yno?” oedd y gri wrth i fwcedi, rhwydi a hambyrddau gael eu cario dros y caeau i safleoedd yr arolwg.
Roedd y tywydd yn garedig a’r haul yn tywynnu. Yr ecolegydd Phil Ward (neu “y dyn pryfed” i roi enw arall arno) oedd wrth y llyw a dangosodd sut i gic-samplo. Gwnaeth y plant yr un peth ac arllwys eu rhwydi’n llawn o gerrig a graean o wely’r afon i mewn i hambyrddau o ddŵr yr afon i weld beth oedd yno.
Ac am drysor cudd o fywyd y dŵr a ddaeth i’r golwg! Tai cerrig larfaol pry cadis ar waelod y creigiau, pysgod ifanc, chwilod prysur, larfa cylion Mai a hyd yn oed cimwch yr afon brodorol Prydeinig (dan fygythiad oddi wrth gimwch yr afon Americanaidd ymledol hyd yn oed yn Afon Hafren a’i llednentydd yn y cyffiniau). Cafodd pob un ei ddychwelyd yn ofalus i’r dŵr ar ôl edrych arnyn nhw.
A’r farn? “Ffantastig – allwn ni ddim aros i wneud hyn eto!”
Cymuned
Mae Natur a Phobl yn gweithio er budd cymunedau lleol, er enghraifft cafodd nifer o gonifferau llain gysgodi a oedd wedi’u cwympo (lle bydd cymysgedd o goed collddail a chonifferau ifanc yn cymryd eu lle er mwyn cael mwy o fioamrywiaeth a storio carbon) eu llyfnhau yn estyll ar gyfer eu defnyddio fel cladin ar ganolfan gymunedol gyfagos a fydd hefyd yn cynnig lleoliad ar gyfer gweithgareddau addysgol y bydd y prosiect yn eu cynnal.
Mae cael mynediad i leoedd cerdded a beicio gwastad heb fawr o draffig yn gallu bod yn broblem i unigolion, teuluoedd a grwpiau fel y cerddwyr, ond mae’r prosiect yn gallu, gyda chefnogaeth tirfeddianwyr, cynnig llwybrau ceffylau a llwybrau caniataol wedi’u huwchraddio ar draws ardal y prosiect, gan gynnwys Yr Allt ym Mhontdolgoch (ar y dde) lle mae tair ardal picnic, un â mynediad i’r anabl, wedi’u gosod.
Bydd sawl milltir o draciau, llwybrau troed a llwybrau ceffylau wedi’u huwchraddio yn golygu y bydd yna leoedd mwy diogel i fwynhau’r awyr agored a natur, sydd o fudd i iechyd a llesiant. Mae gan Bowys nifer fawr o safleoedd carafannau a pharciau cabanau, lleoliadau gwersylla a chartrefi gwyliau, sy’n darparu incwm hanfodol mewn ardaloedd gwledig. Bydd y llwybrau cerdded a beicio gwell hyn yn cynnig cyfleusterau hamdden a hamdden tawel ehangach i ymchwilwyr a thrigolion fel ei gilydd. Mae coed a gwrychoedd newydd yn cael eu plannu ar lawer ohonyn nhw sydd o fudd i fioamrywiaeth hefyd… enghraifft arall o “Natur a Phobl yn Gweithio Gyda’n Gilydd”.