MAE Cyngor Sir Powys wedi cydnabod cadeirydd Grŵp Maesmawr, Roche Davies, am ei gyfraniad neilltuol i’r gymuned.
Cyflwynwyd gwobr Barcud Arian 2023 i Roche, o Fferm Trewythen, gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Beverley Baynham, am 58 mlynedd o wasanaeth mewn seremoni wobrwyo yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf. Dywedodd fod Roche wedi bod yn gynghorydd sir, dosbarth a chymuned ymroddedig a’i fod wedi bod yn llywodraethwr ysgol ar gyfer ysgolion Llandinam, Caersws a Llanidloes.
“Fe chwaraeodd ran hollbwysig mewn achub Ysgol Llandinam pan fygythiwyd ei chau ac nawr mae’n ysgol ffyniannus gydag adran blynyddoedd cynnar cyn ysgol sy’n denu teuluoedd i’r ardal”, meddai. “Bu hefyd yn cefnogi’r maes chwarae newydd yn y pentref. Heb Roche, fyddai hyn heb ddigwydd.”
“Mae hefyd yn hen law ar godi arian ar gyfer nifer o elusennau, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru a’r Ysbyty Orthopaedig yng Ngobowen. Mae wedi cael gyrfa ffermio lwyddiannus, gan helpu’r genhedlaeth nesaf i fyny’r ysgol ffermio.”
Dywedodd Roche fod y wobr “yn anrhydedd mawr” ac estynnodd ei ddiolch i’r cynghorwyr sir lleol, Karl Lewis a Les George, a oedd wedi’i enwebu. Yn ddiweddarach, estynnodd yr AS Craig Williams ei ddiolch iddo yntau. Roedd ei wraig Ceinwen, ei ferched Ann a Jane yn ogystal ag aelodau eraill o’r teulu yno i wylio’r seremoni.
Dyma oedd yr ail wobr i fferm Trewythen ei derbyn yn y Sioe, gyda’r gweithiwr fferm Delwyn Meredith yn derbyn gwobr gwasanaeth hir am 63 mlynedd o wasanaeth. Dechreuodd Delwyn ar y fferm yn rhan-amser fel bachgen ysgol 12 oed cyn ymuno’n amser llawn pan roedd yn 14 oed. Mae’n cofio’r Tywysog Siarl – sef y Brenin erbyn hyn – yn cyflwyno’i wobr gwasanaeth hir flaenorol iddo ar ran Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a’i fod “â diddordeb mawr mewn sut y mae ffermio wedi newid dros y blynyddoedd.” Roedd aelodau o deulu Delwyn hefyd yn y seremoni.