Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…
Mae ardal y prosiect Natur a Ni yn cwmpasu adran 15 milltir o ddalgylch Afon Hafren, gan ymgorffori rhyw 17,240 o erwau o dir aelodau a choedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymestyn o Ddolfor yn y dwyrain i Glywedog yn y gorllewin. Mae’r heriau’n lluosog ac yn gydblethedig…mae’r atebion yn gymhleth ond mae’n bosibl cyflawni llawer trwy ein cynllun ar raddfa tirwedd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn effeithiol.
Y prif gyfle i gydweithredu yw lleihau effeithiau newid hinsawdd fel erydiad tir gan ddŵr a gwynt. Mae angen i ni hefyd wrthdroi dirywiad iechyd ein hecosystemau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth.
Ar yr ochr gymdeithasol-economaidd, mae ein prosiect yn cynnwys mynd i’r afael â bygythiadau fel effeithiau ar incwm ffermio ar ôl Brexit a materion yn ymwneud ag iechyd fel amddifadedd, gordewdra a straen ffyrdd o fyw sy’n gallu arwain at salwch corfforol a meddyliol.
Blogiau diweddaraf
Profion dŵr Hafren
MAE Grŵp Maesmawr wedi cynnal profion ar Afon Hafren fel rhan o Blitz Dŵr Mawr y DU. Dros benwythnos Medi 20-23, 2024 gallai aelodau'r cyhoedd gofrestru i dderbyn pecyn profi dŵr a dod yn wyddonwyr dinasyddion trwy brofi eu corff dŵr lleol. Profwyd dŵr yr afon gan y...
Dalgylch Hafren
MAE Grŵp Maesmawr yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i wella dalgylch Uchaf Hafren er budd tirwedd a bioamrywiaeth. Mae'r Grŵp yn gwneud cais am gyllid i barhau ag ystod o gamau amaeth-amgylcheddol i sicrhau dŵr glanach, mwy o lystyfiant a llai o ddŵr ffo yn yr...
Canmoliaeth i’r Grŵp
CAFWYD canmoliaeth i Grŵp Maesmawr gan werthuswyr allanol cyllid Llywodraeth Cymru. "Mae Maesmawr wedi creu ffordd unigryw o weithio all fod yn fodel ar gyfer meysydd eraill," meddai'r asesydd o ymgynghorwyr OB3. "Maen nhw wedi manteisio ar sgiliau, profiad ac...