Ar y Rhestr Fer am Wobr

Medi 20, 2023

DEWISWYD Grŵp Maesmawr fel un o’r Mentrau Cymdeithasol ar y brig ym Mhowys yng Ngwobrau Busnes o fri’r sir.
Dewiswyd y cydweithrediad hwn dan arweiniad ffermwyr fel un o’r tri grŵp cymunedol arloesol ar y brig yn sir fwyaf Cymru. Yn ôl y beirniaid, gellid ystyried gweithgareddau’r Grŵp a’r ffordd roedd wedi’i ffurfio yn esiampl y gellid ei rhoi ar waith ledled Cymru, a chanmolwyd y rhagwelediad wrth fynd i’r afael, o lefel llawr gwlad i fyny, â’r heriau allweddol a wynebir mewn ardaloedd gwledig, fel heriau newid yn yr hinsawdd, yn cynnwys colli bioamrywiaeth, llifogydd a sychder yn ogystal ag iechyd ac amddifadedd gwledig.
Mae’r Grŵp wedi plannu miloedd o goed a phlanhigion gwrychoedd, wedi sicrhau bod llwybrau ceffylau a llwybrau troed yn fwy hygyrch, wedi cefnogi cysylltiadau addysg ac wedi cymryd camau i sicrhau bod yna ddŵr glanach yn ein nentydd a’n hafonydd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Meddai cadeirydd Grŵp Llywio’r prosiect Pobl a Natur, Rowan Jones, y mae ei deulu yn ffermio ger Llanidloes: “Mae’n fraint mawr cael ein henwebu gan mai dim ond dwy flynedd yn ôl y dechreuodd y Grŵp ei weithgareddau prosiect ac mae wedi gallu cefnogi ei ffermwyr a’r sefydliadau sy’n bartneriaid iddo i ddatblygu cynllun hirdymor, cyfannol a chynaliadwy ar raddfa’r dirwedd. Nod hyn yw datblygu rhwydweithiau ecolegol a chymdeithasol-economaidd gwydn ar gyfer ecosystemau a chymunedau iach. Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd gwahanol o ddelio â phroblemau yng nghefn gwlad ac yn ein pentrefi a’n trefi, gan ddefnyddio gwyddoniaeth a throsglwyddo gwybodaeth i newid dirnadaethau ac ymddygiadau, nodi cyfleoedd a’r gallu i arallgyfeirio a ffermio’n fwy cynaliadwy.”
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n adfer ac yn rheoli ein cynefinoedd naturiol i wella’r ffordd o storio carbon, ansawdd dŵr, draeniad yn ogystal â gwella’r buddion o ran hamdden, busnes a chymuned. Rydyn ni wedi dechrau trosglwyddo gwybodaeth ymhlith ffermwyr ac aelodau eraill o’r gymuned ac wedi datblygu mewnbwn i ysgolion yn ogystal â chychwyn cyswllt ag arbenigwyr academaidd a diwydiannol.”
Grŵp Gweithgynhyrchu’r Canolbarth sy’n trefnu Gwobrau Busnes Powys, gan gynnal seremoni wobrwyo bob blwyddyn ym mis Hydref, a Gwasanaethau Hyfforddi Myrick wnaeth noddi’r categori Mentrau Cymdeithasol.

 

 

Cysylltu â Ni