Cefnogaeth i Ysgolion

Rhag 12, 2023

MAE cadeirydd Grŵp Maesmawr, Roche Davies, wedi cyflwyno offer amrywiol a chefnogaeth arall i feithrinfa ac ysgolion lleol fel rhan o’r raglen cysylltiadau addysg.
Aeth y cyd-brosiect hwn dan arweiniad ffermwyr ati i ddarparu help, gan gynnwys ystafell ddosbarth awyr agored, stepiau dringo awyr agored a chegin awyr agored, a chododd ffens o amgylch ardal bywyd gwyllt ar gyfer bioamrywiaeth. Cefnogwyd ysgolion hefyd trwy gael eu costau cludo wedi’u talu a chael pabell cyfarfod a chyfleusterau i’r pwrpas wedi’u darparu ar eu cyfer yn nigwyddiad Defaid Cymru’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol ym mis Mai y llynedd yn fferm Red House, Aberhafesb.
Meddai Michelle Humphreys, pennaeth Ysgol Gynradd Llandinam: “Rydyn ni wrth ein boddau o dderbyn yr ystafell ddosbarth awyr agored ac rydyn ni’n bwriadu ei defnyddio fel bod y plant yn gallu dysgu’n well am y natur o’u hamgylch a’r rhan bwysig y mae peillwyr a bywyd gwyllt arall yn ei chwarae mewn ffermio a chynhyrchu bwyd yn ogystal â llesiant natur a phobl.” Roedd yr wyth ysgol a gymerodd ran yn y fenter yn dod o: Landinam, Aber-miwl, Tregynon, y Drenewydd (Calon y Dderwen a Meithrinfa Maldwyn), Trefeglwys, Caersŵs a Llanidloes (yr ysgol gynradd). Llun: Cadeirydd Grŵp Maesmawr, Roche Davies, gyda disgyblion o Ysgol Llandinam yn eu canolfan weithgareddau awyr agored.

 

 

Cysylltu â Ni